Cwmni
Mae Transport Investigations yn meddu ar dros bump mlynedd o brofiad o arloesi wrth gefnogi Cwmnïau Gweithredu Trenau i ddatblygu strategaethau clyfarach ar gyfer meysydd arbenigol eu gwaith.
Wedi’i sefydlu gan reolwyr uwch profiadol o’r diwydiant rheilffyrdd, mae’r cwmni yn cyfuno dealltwriaeth dwfn o’r rheilffyrdd â hynafiaeth a chreadigrwydd y meddylfryd sy’n deillio o weithio fel corff annibynnol.
Boed yn sefydliadau corfforaethol sy’n defnyddio ein gwasanaethau ymgynghori, cwmnïau gweithredu trenau a’u teithwyr arfaethedig yn ymwneud â’n timau diogelu refeniw ac arolygon, neu deithwyr sy’n gofyn am gyngor gan ein staff gwybodaeth i gwsmeriaid, rydym yn ymfalchïo bob amser mewn symud ymlaen, gan gefnogi eraill i gyrraedd lle y maent angen bod, yn y ffordd fwyaf priodol.